Mae’n swyddogol, ni’n GYNTAF unwaith eto!

Am y 4edd flwyddyn yn olynol rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod wedi cael ein rhestru yn haen uchaf Fframwaith Maethu Cymru Gyfan. Mae hyn yn adlewyrchu’r gofal, cefnogaeth a hyfforddiant o ansawdd uchel rydyn ni’n eu cynnig i’r plant yn ein gofal, y rhieni maeth rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn ogystal â’n partneriaid awdurdod lleol ledled Cymru. Mae cael ein rhestru fel Rhif 1 ar Haen 1 Fframwaith Cymru gyfan yn golygu ein bod yn cael ein rhestru’n swyddogol fel yr asiantaeth gofal maeth blaenllaw yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth a’r gefnogaeth a gynhigiwn i’n rhieni maeth heb ei ail.

Wrth gwrs, ni chyflawnwyd dim o hyn gan un unigolyn yn unig neu hyd yn oed yn unig gan ein tîm staff. Mae bod y gorau yn gofyn am waith caled ac ymroddiad gan bawb sy’n cymryd rhan ac mae ein rhieni maeth yn allweddol i’n llwyddiant. Felly, o waelod ein calonnau hoffem ddiolch i bawb sydd wedi helpu FFP i newid bywydau plant ledled Cymru.
Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o ofal rhagorol a thwf cynyddol wrth i ni groesawu rhieni maeth newydd i’r teulu FFP.
Rydym yn parhau i fod yn chwilio am deuluoedd ac unigolion a all helpu i gynnig cartref diogel a sefydlog i blant sy’n derbyn gofal, felly, os ydych chi’n meddwl yr hoffech chi ddysgu mwy yna peidiwch ag oedi cyn cysylltu. Gallwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio’r sgwrs fyw ar-lein yng nghornel dde isaf eich sgrin, trwy lenwi’r ffurflen isod, neu gallwch gysylltu trwy e-bost (info@familyfosteringpartners.co.uk) a dros y ffôn (0330 094 8816).


return to news & blogs

Meddwl am faethu?

.