Taliadau Maethu Cymru
Mae maethu yn canolbwyntio ar ddarparu gofal yn y cartref i blant a phobl ifanc sydd angen diogelwch, magwraeth a chariad. Nid yw Family Fostering Partners yn disgwyl i chi wneud hyn am ddim. Gwyddom fod maethu yn llafur o gariad ond rydym hefyd yn ei gydnabod fel gyrfa broffesiynol.
Yn ogystal â’r cartref diogel yr ydych yn ei ddarparu a’ch amser a’ch egni, rydych chi hefyd yn darparu gwasanaeth hynod o werthfawr i blant sy’n derbyn gofal ac i’ch cymuned. Mae’n deg felly eich bod yn cael iawndal am y gwaith pwysig yr ydych yn ei wneud.
Pan fyddwch yn mynd â pherson ifanc i’ch cartref i ofalu amdano, byddwch yn cael lwfans. Y lwfans hwn yw eich gwobr am eich gwaith, ond mae hefyd yn cynnwys cost beunyddiol gofalu am y person ifanc hwnnw, fel dillad a bwyd. Mae hefyd yn cynnwys darparu gweithgareddau hamdden priodol, arian cinio a swm o arian poced y cytunwyd arno. Telir ein lwfans bob pythefnos yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, a bydd y swm yn amrywio yn dibynnu ar y bobl ifanc yn eich gofal a chymhlethdod eu hanghenion. Cyfrifir y swm fesul plentyn ac fesul wythnos.
Mae eich gweithiwr cymdeithasol sy’n goruchwylio yn gweithio gyda chi yn ystod yr asesiad ac yn eich helpu i nodi pa blant neu bobl ifanc yr ydych yn fwyaf addas i ofalu amdanynt. Mae’r ffactorau a ystyriwyd yn cynnwys eich sgiliau a’ch profiad, maint eich cartref, a chyfansoddiad eich teulu eich hun. Efallai y byddwch am gael eich asesu a’ch cymeradwyo i ofalu am fwy nag un person ifanc a byddwch yn derbyn lwfans ar gyfer pob plentyn yn eich gofal.
Er nad yw ein gofalwyr maeth yn ymgymryd â’r rôl am y wobr ariannol yn unig, mae bod yn ofalwr yn cael ei ystyried yn hunangyflogedig ac mae HMRC yn caniatáu eithriadau treth amrywiol neu ryddhad treth i ofalwyr maeth. Bydd manylion y rhain yn cael eu hesbonio yn ystod y broses ymgeisio.
Os ydych chi eisiau bod yn ofalwr, rydym yn pwysleisio ni ddylech adael i bryderon am ochr ariannol pethau eich rhwystro rhag gwneud cais. Os hoffech rhagor o wybodaeth yna rhowch alwad i ni, rydym yn hapus i helpu esbonio yr rheolau ac system yn bellach. Mae pob gwasanaeth maethu yn gosod ei lefelau lwfans ei hun, ac mae’r swm yn amrywio yn dibynnu ar oedran y plentyn. Nid oes lefel lleiafswm tal i gael yng Nghymru. Rydym yn cynnig lwfansau hael. Hefyd, mae gofalwyr maeth yn cael eu trin fel rhai hunangyflogedig at ddibenion treth ac mae hyn yn fantais mawr yn ariannol.
Wrth siarad am fudd-daliadau, os ydych chi’n hawlio budd-daliadau lles ar hyn o bryd, nid yw bod yn rhan o’n tîm yn debygol o amharu ar eich cais oherwydd eich bod yn cael eich cymeradwyo yn hytrach na’ch cyflogi. Fel arfer caiff taliadau maeth eu diystyru wrth gyfrifo budd-daliadau lles.
Mater arall sy’n werth ei grybwyll yw os ydych chi wedi cael problemau ariannol yn y gorffennol, ni ddylai hyn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth. Os gallwch ddangos eich bod bellach yn ddigon diogel yn ariannol i ddarparu cartref sefydlog ac y gallwch reoli eich lwfansau, dyna’r cyfan sy’n bwysig.