Gofal Maeth Hirdymor
Mae Family Fostering Partners yn gwybod bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu cartref teuluol diogel a sefydlog ac mae maethu tymor hir yn darparu hynny i blentyn. Er na fydd plentyn yn gallu byw gyda’i rieni, efallai na fydd yn dymuno cael ei fabwysiadu neu efallai neu mae’n bosib bod mabwysiadu ddim yn opsiwn am resymau eraill. Yn yr achosion hyn, maethu hirdymor yw’r ateb.
Mae maethu hirdymor yn golygu bod plentyn neu berson ifanc yn byw gyda gofalwr maeth ymroddedig nes iddo / iddi ddod yn oedolyn. Mae cael eich magu gan un gofalwr, yn aml dros sawl blwyddyn, yn rhoi mwy o gysondeb i bobl ifanc mewn gofal maeth, a mwy o ymdeimlad o berthyn i deulu. Mae hefyd yn eu helpu i setlo o fewn cymuned leol a datblygu perthynas gadarnhaol.
Y gefnogaeth un-i-un barhaol y gall gofalwr maeth hirdymor ei darparu yw union beth sydd ei angen ar bobl ifanc i ffynnu.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu?
Er y gall maethu hirdymor ymddangos yn debyg iawn i fabwysiadu mae rhai gwahaniaethau pwysig.
Gyda mabwysiadu, trosglwyddir y cyfrifoldebau cyfreithiol i’r rhieni mabwysiadol. Yn wahanol i fabwysiadu, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol ar blentyn mewn gofal maeth hir dymor.
Wrth fabwysiadu plentyn, nid ydych fel arfer yn derbyn lwfans, ond gyda maethu hirdymor, rydych yn parhau i dderbyn lwfans maethu trwy gydol y lleoliad.
A allech chi fod yn ofalwr maeth hirdymor?
Mae darparu cartref parhaol i blentyn neu berson ifanc yn benderfyniad mawr, ond mae’r gwobrau’n enfawr, a byddwn yno i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Os ydych chi’n meddwl y gallai maethu tymor hir fod yn addas i chi, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Mae’n bosib danfon neges i ni drwy ddefnyddio yr bocs deialog yn yr cornel gwael dde o’ch sgrin, trwy Facebook neu drwy e-bostio info@familyfosteringpartners.co.uk.