Arolygiad Gofal Cymru

 

Dywedodd Aristotle unwaith, “Nid yw ansawdd yn weithred, mae’n arferiad,” ac mae’n arferiad yr ydym ni yn Family Fostering Partners yn browd o gael!

 

Mae ansawdd yn rhan annatod o’r gwasanaeth yr ydym yn cynnig i’n rhieni maeth a’n pobl ifanc. Felly, roeddem wrth ein bodd wrth ddarllen ein hadroddiad arolygu diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Roedd yr arolygiad yn cydnabod bod ein gwasanaeth yn blaenioraethu cymorth i ofalwyr maeth, a  bod hyn o fydd i blant a phobl ifanc yn ein gofal. Wedi’r cyfan, oni bai fod gofalwyr maeth yn teimlo’r cefnogaeth, sut allwn ni ddisgwl iddynt fedru helpu plant i gyrraedd eu potensial?

 

Mae’r adroddiad yn disgrifio sut mae plant o fewn Family Fostering Partners yn byw gyda rhieni maeth sydd yn cynnig cartref cynnes iddynt; yn deall eu hanghenion and yn ofalgar eu hymagwedd.

 

Mae AGC hefyd yn cyfeirio yn yr adroddiad at y ffaith bod Family Fostering Partners yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog i’n rhieni maeth; o’n hymweliad cychwynnol; trwy’r asesiad, y panel a’r cymorth parhaus.

 

Felly, os ydych chi’n newydd i faethu, neu yn ofalwr profiadol hoffai weithio gydag asiantaeth sy’n cefnogi a gwerthfawrogi ei gofalwyr maeth, peidiwch â chymryd ein gair ni, darllenwch yr adroddiad llawn YMA ac yna ymunwch efo ni.

 

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut i ymuno â Family Fostering Partners drwy ddod yn ofalwr maeth, gallwch siarad â ni heddiw ar 01267 232228. Anfonwch e-bost atom ar [email protected] neu defnyddiwch y blwch sgwrsio byw isod.

 

return to news & blogs

Meddwl am faethu?

.