Family Fostering Partners yn Arddangosfa Awyr Abertawe 2018

Ar ôl yr hwyl a’r llwyddiant a gawsom yn Arddangosfa Awyr Abertawe blwyddyn dwethaf, roeddem yn gwybod ein bod yn gorfod dychwelyd eto eleni. Dyna pam yr ydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn dod â’n Elevan i Fae Abertawe ar y 30ain o Fehefin tan y 1af o Orffennaf.

Efallai eich bod chi wedi bod yn meddwl am ddod yn ofalwr maeth am gyfnod ond eich bod heb gymryd y cam cyntaf, neu efallai yr hoffech chi ddysgu mwy am sut i ddod yn ofalwr maeth a darganfod a yw’r penderfyniad yr un cywir i chi a’ch teulu, beth bynag yr rheswm be am gymryd y cyfle hwn i ddod am sgwrsio â ni? Bydd ein staff rhagorol yn fwy na pharod i siarad â chi am y broses asesu, y mathau o leoliadau yr ydym yn arbenigo ynddynt, y gefnogaeth a’r hyfforddiant yr ydym yn ei gynnig yn ogystal ag unrhyw gwestiynau eraill a allai fod gennych ynglŷn â maethu. (Mae yna hefyd siawns dda y bydd gennym gwpan cynnes o de neu goffi yn barod i chi yn ein Elevan!)

Yn y cyfamser, gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am faethu yn Abertawe yma. Wrth gwrs, os na allwch chi aros tan yr sioe awyr yna gallwch chi bob amser siarad â ni dros y ffôn ar 01267 232228, drwy e-bostio info@familyfosteringpartners.co.uk neu drwy ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein ar ein gwefan.


return to news & blogs

Meddwl am faethu?

.